Sunday 26 October 2008

“MESUR IAITH CYFLANN”



...de Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Yna wrth i hanner cant o aelodau ddangos eu cefnogaeth drwy arwyddo eu henwau ar y wal fe arestiwyd pedwar person arall sef Bethan Williams arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas, Siriol Teifi, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr iaith Gymraeg a dau fachgen yn eu harddegau.

No comments: