Monday 20 October 2008

Steffan Cravos kaj Osian Jones


...de Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw.


Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.

Roedden nhw wedi peintio sloganau ar y siopau hyn yn galw am gyfiawnder i'r Gymraeg fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf iaith yn ôl ym Mis Mehefin.
Dywedodd y ddau nad oedd yn fwriad ganddynt dalu'r dirwyon nes y byddai Deddf Iaith gyda phwerau yn ymestyn i'r sector breifat yn cael ei phasio gan lywodraeth y Cynulliad.

No comments: