Tuesday 17 July 2007

“Polisi iaith yn 'dwp'”

…de la BBC:

"Mae rhai o ASau Llafur Cymru wedi dweud na ddylai cyhoeddiadau gorsafoedd rheilffordd fod yn Gymraeg yn gyntaf os yw'r rhan fwyaf o bobl yr ardal yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Saith AS, gan gynnwys dau gyn-weinidog a dau siaradwr Cymraeg, sydd wedi dweud y byddai'n fwy synhwyrol a chyfleus i deithwyr pe bai cyhoeddiadau yn gyntaf "yn yr iaith y mae'r rhan fwya o'r boblogaeth leol yn ei siarad...

...Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Dyw'r polisi presennol ddim wedi gwneud drwg i neb. "

Mae llawer o bobl ddi-Gymraeg yn deall y cyhoeddiadau Cymraeg ac yn ymateb iddyn nhw cyn clywed yr un Saesneg.
"Does dim arwydd bod y boblogaeth leol yn unman yn gwrthwynebu'r polisi. Dylid gadael pethau fel y maen nhw".

Dywedodd Mr Bryant na ddylai ei etholwyr gredu y byddai pawb yn y Rhondda yn mynd i gael eu gorfodi i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg."

No comments: