Monday, 17 December 2007

Kimralingvo kaj Microsoft Windows


...de la BBC:

O ddydd Llun ymalen mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol fel Windows Vista ac Office 2007 trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae pecynnau ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o dan gynllun rhwng y cwmni meddalwedd cyfrifiadurol Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yr oedd y prosiect yn golygu cyfieithu 600,000 o eiriau i'r Gymraeg ac fe wnaed y gwaith cyfieithu gan gwmni Cymen.

Fe gychwynnodd y berthynas rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth lansio pecynnau rhyngwyneb iaith i Office 2003 a Windows XP yn 2004.
'Tyngedfennol'

No comments: