Wednesday 19 August 2009

Osian Jones Kondamnita al Malliberejo



Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.

Roedd y diffynnydd wedi gofyn i'r Ynadon i roi rhyddhad iddo yn hytrach na dirwy er mwyn dangos eu dirmyg at ymddygiad y ddwy siop fawr, sy'n gwrthod darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i'w cwsmeriaid.

Penderfynodd Ynadon Pwllheli roi rhyddhad amodol iddo, a gorchymynnwyd iddo dalu £200 o gostau Llys am y gwrandawiad heddiw, ond dywedodd Osian wrth yr Ynadon na fyddai'n talu unrhyw ddirwy na chostau. O ganlyniad rhoddodd yr Ynadon 28 diwrnod o garchar iddo os na fyddai'n talu o fewn 28 diwrnod gostau heddiw a hefyd dirywion am ei weithredoedd blaenorol yn yr un ymgyrch, sy'n dod i gyfanswm o £1,100...

No comments: